Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
10 rheswm da dros ddewis Llambed

Title - 1Myfyrwyr yn Fodlon Iawn

Dangosodd y ddau Arolwg Cenedlaethol cyntaf ar Fodlonrwydd Myfyrwyr lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith myfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan. Yn 2009, rhoddodd myfyrwyr Llanbedr Pont Steffan sgôr bodlonrwydd cyffredinol o 4.2 ar raddfa o 1 i 5, a chytunodd 87% o’r rhai a ymatebodd eu bod yn fodlon ag ansawdd eu cwrs.

Tref Llambed
   

Title - 2Cymuned Gyfeillgar a Chymwynasgar

Yn Llanbedr Pont Steffan rydym yn ymfalchïo yn ein hagwedd gyfeillgar. Mae staff yn hawdd mynd atynt ac mae gan y rhan fwyaf bolisi drws agored sy’n golygu fod croeso i fyfyrwyr alw heibio unrhyw bryd.

Llun o Myfyrwyr
   

Title - 3Lle Diogel i Fyw a Gweithio

Mae’r heddlu lleol, Dyfed-Powys, yn gyson yn adrodd ar y cyfraddau troseddu isaf yn y wlad, ac mae lefelau troseddu personol a theuluol hanner cyfartaledd Cymru a Lloegr. Mae’r ymdeimlad o ddiogelwch personol y mae hyn yn ei gynnig yn golygu fod gennych fwy o amser ac egni i ganolbwyntio ar fwynhau bywyd.

Llun or campws
   

Title 4Amgylchedd Hardd a Chyfoethogol

Rydym wedi’n lleoli yn un o’r rhannau harddaf o’r wlad, ynghanol bryniau glas ponciog ac yn gartref i’r barcud coch prin. Ar yr un pryd, nid ydym ond 13 milltir o’r môr ble y mae morloi a dolffiniaid i’w gweld yn gyson.

Llun or gwlad
   

Title - 5Maint Bychan Dosbarthiadau

Yn Llanbedr Pont Steffan nid ydych yn wyneb dienw yn y dorf. Mae maint ein dosbarthiadau yn ddigon bach inni allu dod i adnabod ein myfyrwyr ac mae hynny’n creu mwy o gyfle i drin a thrafod gyda darlithwyr ac i gael profiad dysgu mwy cyfoethog. I ddyfynnu un o’n myfyrwyr "Mae gan bobl ddiddordeb ynddoch chi ac nid yn eich ffïoedd dysgu yn unig".
Llun o dosbarth
   

Title - 5Costau Llety a Byw Isel

Oherwydd ein lleoliad, mae costau byw yn Llanbedr Pont Steffan yn is nac mewn sawl rhan arall o’r wlad. Golyga hynny fod eich benthyciad myfyriwr yn mynd ymhellach yn Llanbedr Pont Steffan. Mae llety ar y campws (cewch warant o le yn eich blwyddyn gyntaf) yn dechrau o £60.50 yr wythnos, ac nid oes angen neilltuo unrhyw arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Barnodd papur newyddion The Independent Llanbedr Pont Steffan y 8ed lle mwyaf fforddiadwy i astudio ynddo yng ngwledydd  Prydain ym mis 2009.
Llun or llety
   

Title 7Bywyd Cymdeithasol Prysur

Er nad yw Llanbedr Pont Steffan yn ddinas fawr, mae digon o adloniant a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr, ar y campws ac yn y dref. Mae ein myfyrwyr yn cwyno’n aml eu bod yn rhy brysur i ysgrifennu eu traethodau!
Llun o myfyrwyr
   

Title - 8Ymchwil Rhagorol

Mae gan Lanbedr Pont Steffan enw da cenedlaethol & rhyngwladol am ansawdd ei hymchwil. Ymhlith ei chryfderau arbennig mae Diwinyddiaeth & Astudiaethau Crefyddol, Saesneg, Archaeoleg a Hanes. Caiff yr arbenigedd hwn ei fwydo’n syth i’r ystafell ddosbarth; mae gan y darlithwyr afael gwirioneddol ar eu pynciau ac yn y pendraw, fe fydd gennych chithau hefyd.
Llun o llyfr
   

Title - 9Hanes Hir

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yw’r trydydd sefydliad cyflwyno graddau hynaf yng Nghymru a Lloegr, gyda dim ond Rhydychen a Chaergrawnt o’n blaenau. Fe’n sefydlwyd yn 1822 ac roedd adeilad Dewi Sant wedi’i seilio ar un o golegau Rhydychen, gyda phedrongl ar gyfer ystafelloedd preswyl, neuadd ginio, llyfrgell a chapel.
Llun or hen adeilad
   

Title - 10Creu Cyfleoedd Newydd

Rydym yn falch o’n llwyddiant yn creu cyfleoedd newydd i fanteisio ar addysg uwch. Gydag astudiaethau sylfaen cyn-gradd, cyrsiau dysgu rhan-amser ac o hirbell, yn ogystal â chyrsiau llawn-amser traddodiadol, rydych yn rhydd i ddewis sut a phryd i astudio. Mae’r Times Higher Education Supplement wedi enwi Llanbedr Pont Steffan yn un o brifysgolion pennaf gwledydd Prydain o ran ei llwyddiant i gyfuno creu cyfleoedd newydd gyda chyfraddau gadael isel a rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.
Llun o myfyrwyr