Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Amdano'r Brifysgol

Tref Llanbedr Pont Steffan

Tref farchnad ffyniannus lleoli yn Nyffryn Teifi yn sir Ceredigion yw Llanbedr Pont Steffan. Gwyrdd a bryniog yw'r tirlun o'n cwmpas a cheir cyfoeth o henebion hanesyddol gerllaw.

Mae dyn wedi byw yn yr ardal ers miloedd o flynyddoedd. Mae'n ymddangos mai cylch cerrig cynhanesyddol ar fryn coediog Alltgoch uwchlaw'r dref yw'r dystiolaeth gynharaf o bresenoldeb dyn yn yr ardal. Cloddiwyd creiriau efydd ac mae yno dystiolaeth hefyd o weithgareddau ac anheddau Rhufeinig.

Bu'r Rhufeiniad yn mwyngloddio aur yn Nolaucothi ac erbyn 1093 yr oedd y goresgynwyr Normanaidd wedi cyrraedd mor bell â Cheredigion, gan adeiladu cestyll i gadw'r brodorion draw. Mae olion un o'r cestyll yma ar dir y brifysgol.

Perthyn y cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf at Lanbedr Pont Steffan i'r 12ed a'r 13eg ganrif. Ym 1188 ymwelodd Giraldus Cambrensis, neu Gerallt Gymro, Archesgob Baldwin Caer-gaint ac Abad Ystrad Fflur (abaty Sistersiaidd pwysig a sefydlwyd ym 1164 i'r gogledd o Dregaron) ac fe gofnodir eu bod wedi pregethu yno i geisio perswadio dynion Llanbedr Pont Steffan i fynd i ymladd yn yr Ail Groesgad. Mae Brut y Tywysogion yn nodi bod Maredudd, mab yr Arglwydd Rhys, wedi marw ym 1227 yn Llanfair - "Eglwys Fair yn Llanbedyr Tal Pont Ystevyn". Mae cofnodion treth y Pâb Niclas ar gyfer 1291 yn sôn am asesiad ar gyfer "Ecclesia de Lampede - Eglwys Sant Pedr."

Bu Llanbedr Pont Steffan yn dref farchnad a chanolfan fasnachu i'r ardal ers amser maith, ac mae'r hen draddodiadau yn dal yn amlwg mewn digwyddiadau megis y sioe geffylau, treialon cwn defaid,y sioe amaethyddol a'r Eisteddfod a gynhelir yn y dref. Mae campws y brifysgol ynghanol tref farchnad Llanbedr Pont Steffan ac mae siopau, adloniant a safleoedd bysiau o fewn cyrraedd cerdded 2-5 munud.

Mae gan bob prif fanc gangen yn Llanbedr Pont Steffan, ac mae dewis bychan o archfarchnadoedd, fferyllwyr, siopau nwyddau, papur newydd, torwyr gwallt a siopau llai megis delicatessen, siopau bwydydd iach ac amryw o siopau ffasiwn, chwaraeon a dillad awyr agored, ynghyd â chaffis, tafarnau, bwyty cyrri a phatisserie Ffrengig.

Yr ardal gyfagos

O fewn cyrraedd hwylus i Lanbedr Pont Steffan y mae Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog yn ogystal â nifer o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, digonedd o deithiau cerdded gwych, a thoreth o gyfleon ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae dinasoedd Caerdydd ac Abertawe o fewn pellter teithio ar gyfer siopa, yn ogystal â threfi Aberystwyth, Caerfyrddin ac Aberhonddu.

Mae'r ardal gyfagos yn gyfor o bethau diddorol. Mae'r wlad yn denau o ran poblogaeth ac mae ardaloedd eang o harddwch naturiol ysblennydd a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ynghyd â llu o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol.

Dolenni Teithio

Traveline Cymru
Gwybodaeth ar gyfer cynllunio'ch taith, ar y bws neu ar y trên.

Ymholiadau Cenedlaethol y Rheilffyrdd
Rhwydwaith Rheilffyrdd Prydain

National Express
Rhwydwaith Bysus Prydain

Amserlen Bysus Lleol
X40 i ac o Aberystwyth, Caerfyrddin, a Chaerdydd

AA Route Planner
Prydain Fawr
Gwefannau allanol yw'r rhain.  Nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

10 rheswm da dros ddewis Llambed

Dyddiau Agored y Brifysgol