
Fe'i sefydlwyd ym 1822 a Llanbedr Pont Steffan yw'r sefydliad hynaf sy'n dyfarnu graddau uwch yng Nghymru. Fe'i lleolir mewn tref wledig fechan, ac rydym yn cynnig amgylchedd gwyrdd ardderchog ar gyfer astudio mewn awyrgylch ddiogel. Mae ein campws yn gryno ac yn cynnwys offer helaeth. Mae gennym ddigon o lety preswyl sy'n gymharol rhad.
Nid oes yr un brifysgol draddodiadol arall yn y Deyrnas Unedig bellach sy'n gweithredu ar raddfa mor agos-atoch-chi. Rydym yn cyfuno traddodiad hir o ysgolheictod gyda datblygiadau diweddar mewn technoleg gwybodaeth. Ein nod yw asio ynghyd ddatblygiad deallusol, diwylliannol a phersonol mewn modd a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer sialensau amrywiol byd gwaith.
Mae Llanbedr Pont Steffan wedi rhoi ffocws arbennig ar y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae gwaith cyhoeddedig ein hysgolheigion clasurol, ein haneswyr, ein ieithyddion, ein daearyddwyr, ein hathronwyr, ein harcheolegwyr, ein hysgolheigion llenyddol, ein hanthropolegwyr a'n diwinyddion yn enwog drwy'r byd. Yn ddiweddar rydym wedi ennill Gwobr Cylchwyl y Frenhines (1998) am waith a wnaed yn y Canolfan Datblygu Addysg wrth ddarparu sgiliau a hyfforddiant i'r rheini sy'n gwasanaethu yn y sector gwirfoddol.
Mae'r rhyngweithio cynyddol rhwng ein rhaglenni craidd yn amlwg iawn trwy ein system modiwlaidd. Rydym yn cynnig cyrsiau creadigol mewn cyfrifiadureg a sgiliau yn ein hadran reolaeth a systemau gwybodaeth.
Mae'r ffaith hefyd fod Llanbedr Pont Steffan wedi'i lleoli mewn rhan o Gymru sy'n ddwyieithog yn rhoi dimensiwn ychwanegol i astudio iaith, diwylliant a chymdeithas [er hynny ar wahân i'r Adran Gymraeg rydym yn addysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg]. Daw ein myfyrwyr i Gymru o weddill y DG ac o Ewrop, Gogledd America a Dwyrain Asia. Rydym yn croesawu myfyrwyr aeddfed, ac rydym yn barod bob amser i gynnig cyngor a gwybodaeth.
Traveline Cymru
Gwybodaeth ar gyfer cynllunio'ch taith, ar y bws neu ar y trên.
Ymholiadau Cenedlaethol y Rheilffyrdd
Rhwydwaith Rheilffyrdd Prydain
National Express
Rhwydwaith Bysus Prydain
Amserlen Bysus Lleol
X40 i ac o Aberystwyth, Caerfyrddin, a Chaerdydd
AA Route Planner
Prydain Fawr
Gwefannau allanol yw'r rhain. Nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

