Y Ffreutur
Mae’r ffreutur ar agor am frecwast rhwng 8.15-10.00yb ac am ginio rhwng 12.00-1.30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae’r fwydlen yn newid yn ddyddiol ond mae wastad yn cynnig bwyd cartref, ffres am brisiau rhesymol. Bob Dydd Sul rhwng 12.00-2.00yh mae cinio carferi’r Sul ar gael. Ar gyfer digwyddiadau arbennig, megis priodasau, ciniawau blynyddol, ciniawau dawns, partïon neu ddigwyddiadau Nadolig, mae croeso ichi drafod eich gofynion gyda’n tîm arlwyo all helpu teilwra bwydlen a gwasanaeth ar gyfer eich gofynion.
Bwyty Dewi
Lleolir Bwyty Dewi yn Undeb y Myfyrwyr ac mae ar agor rhwng 10.00yb a 4.00yh o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn. Mae Bwyty Dewi yn cynnig coffi a the masnach deg, brecwastau trwy’r dydd, tato pob, brechdanau a baguettes bwyta-mas a chawl a saladau organig, lleol Knobbly Carrot.
Yr Hen Neuadd
Yr Hen Neuadd oedd yr ystafell giniawa wreiddiol yng Ngholeg Dewi Sant ac mae erbyn hyn yn cynnig lleoliad cinio ysblennydd ar gyfer 72 o bobl ar eu heistedd, neu 100 o bobl ar gyfer bwffe. Cysylltwch â’r tîm arlwyo i drafod bwydlen a gwasanaeth pwrpasol.
Yr Ystafell Giniawa Breifat
Ar gyfer partïon a digwyddiadau llai, mae’r Ystafell Giniawa Breifat yn cynnig awyrgylch cartrefol, ymlaciol. Gellir eistedd uchafswm o 48 o bobl i ginio, ac mae bwydlenni pwrpasol ar gael.
Bwydlenni
Nid ydym yn eich cyfyngu i fwydlenni neu becynnau gosod; cynigiwn yn hytrach wasanaeth personol sy’n gweddu i’ch gofynion unigol chi. Byddwn yn falch o drafod bwydlenni, diodydd a dewisiadau gweini, gosodiad byrddau, addurniadau byrddau a’r ystafell, neu unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch i wneud eich diwrnod yn wirioneddol arbennig. Darperir rhai bwydlenni enghreifftiol o ddigwyddiadau blaenorol yn ein gwele yn www.lamp.ac.uk/catering
Cyswllt
I drafod archebion a’ch gofynion arlwyo, mae croeso ichi gysylltu â’n tîm arlwyo:
Ebost: catering@lamp.ac.uk
Ffôn: 01570 424944 Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00yb- 4.30yh
|

Y Ffreutur

Yr Hen Neuadd

Yr Ystafell Giniawa Breifat
|