Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Cyrsiau

Cyrsiau Iaith Saesneg

Anelir cyrsiau iaith Saesneg at fyfyrwyr rhyngwladol y mae eu galluoedd yn yr iaith Saesneg yn golygu fod angen rhagor o waith astudio cyn cychwyn ar raddau israddedig ac ôlradd yn Llanbedr Pont Steffan neu mewn unrhyw ran arall o wledydd Prydain.

Cwrs Saesneg Cyn-sesiynol

Os oes gennych sgôr IELTS (International English Language Testing System) o 6 neu lai ac os ydych eisiau gwella eich Saesneg cyn cychwyn gradd, mae hwn yn gwrs dwys, 4 wythnos a gynhelir ar ddiwedd Awst – Medi. Cewch hyfforddiant dwys yn Saesneg, gyda phwyslais ar y medrau darllen, ysgrifennu a chymryd nodiadau y byddwch eu hangen ar gyfer rhaglen gradd, yn ogystal â chyfle i fynd ar deithiau, cyfleoedd cyfarwyddo a digwyddiadau diwylliannol. Bydd myfyrwyr sy’n mynd ar y rhaglen hon yn cael cymorth iaith parhaus yn ystod y flwyddyn academaidd. Rhagor o Wybodaeth...

Trwydded mewn Saesneg at Ddibenion Academaidd (LEAP)

Mae’r rhaglen hyblyg hon yn cynnig llwybr ar gyfer myfyrwyr anfrodorol sy’n siarad Saesneg i’r portffolio o gyrsiau ôlradd ymchwil ac wedi’u haddysgu a gynigir yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn eich helpu i ddatblygu eich medrau iaith ac academaidd ac yn eich galluogi i gymryd modylau pwnc-benodol i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich rhaglen ôlradd. Gellir cychwyn eich Trwydded naill ai ym mis Hydref neu ym mis Ionawr bob blwyddyn.   Rhagor o Wybodaeth...

Cymorth parhaus

Os oes gennych sgôr IELTS yn barod ond yn teimlo fod angen rhagor o gymorth neu ymarfer arnoch yn ystod eich astudiaethau, gallwch fynd i ddosbarthiadau cymorth iaith wythnosol, trwy drefniant gyda’ch tiwtor. Bydd y modylau hyn yn eich helpu i wella eich Saesneg, yn rhoi cyfle ichi gyfarfod myfyrwyr rhyngwladol eraill, ac yn rhoi’r hyder ichi barhau â’ch gradd. Er mwyn eich helpu i benderfynu a oes angen y cymorth hwn arnoch, wedi ichi gyrraedd cewch wahoddiad i wneud prawf asesu iaith, a gynhelir yn ystod wythnos gyflwyno’r Brifysgol.

Rhagor o Wybodaeth

Rydym yn deall fod eich dewis o raglen sylfaen Saesneg yn bwysig iawn ichi a’ch teulu, ac felly rydym yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae croeso ichi gysylltu â ni ar unrhyw adeg a byddwn yn falch o ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor ar unrhyw fater sy’n ymwneud â byw ac astudio yn Llanbedr Pont Steffan.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Carole Russell-Williams
Adran y Saesneg
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7ED DG
Ffôn: + 44 (0)1570 422351
Ffacs: + 44 (0)1570 423634
Ebost: c.russell-williams@lamp.ac.uk

10 rheswm da dros ddewis Llambed

Dyddiau Agored y Brifysgol