Ffurflenni Cais Rhan-Amser (PDF)
Israddedig | Ôlradd
Gellir astudio ein holl gynlluniau gradd israddedig ac ôlradd yn rhan-amser.
Er bod myfyriwr israddedig llawn-amser yn astudio 120 credyd y flwyddyn, fel myfyriwr rhan-amser gallwch ddewis astudio rhwng 40 a 100 credyd y flwyddyn er mwyn ffitio gyda’ch ymrwymiadau eraill. Trwy astudio’n rhan-amser, gallwch gwblhau gradd anrhydedd mewn 6 i 10 mlynedd. Fodd bynnag, mae’n werth cofio, er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr, fod rhaid ichi gofrestru am o leiaf 60 credyd y flwyddyn (bydd eich Awdurdod Addysg Lleol hefyd yn gallu rhoi mwy o gyngor ichi ar fenthyciadau a grantiau myfyrwyr).
Os nad ydych yn frodor o ardal Llanbedr Pont Steffan, gallwch barhau i astudio rhai pynciau yn rhan-amser trwy ein cynlluniau dysgu o bell.
Gellir gwneud graddau ôlradd ymchwil ac wedi’u haddysgu trwy astudio’n rhan-amser, ac mae rhai cyrsiau ôlradd hefyd yn cael eu haddysgu trwy ddulliau dysgu o bell. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ôlradd, neu i gael cyngor cysylltwch â’n swyddfa ôlradd.
Os yw eich amgylchiadau yn newid yn ystod eich gradd, gallwch newid rhwng dulliau llawn-amser a rhan-amser o astudio. Bydd eich tiwtor neu’ch ymgynghorydd personol yn eich adran(nau) yn eich helpu i drefnu cynllun astudio sy’n gweddu ichi.