Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Cyrsiau

Rhaglenni Sylfaen

Mae rhaglenni sylfaen Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn paratoi myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael eu derbyn yn syth ar gwrs gradd israddedig, neu a fyddai’n falch o gael rhagor o gyfle i baratoi cyn dechrau un, ar gyfer astudiaethau israddedig.

Swyddog Ehangu Mynediad

Mae’r Swyddfa Ehangu Mynediad yn cynnig nifer o raglenni a phrosiectau gwahanol i helpu pobl i allu manteisio ar addysg uwch. Mwy...

Astudiaethau Sylfaen

Mae astudio ar lefel gradd yn gyffrous – bydd yn eich herio a’ch ymestyn. Gall gradd fod yn drwm ar eich amser a’ch poced ac mae angen ichi wneud y dewisiadau iawn. Mae astudio mewn Prifysgol yn cynnwys ffordd gwbl newydd o fyw, dulliau astudio newydd, medrau academaidd newydd a phob math o ddeunyddiau pynciol newydd. Bydd angen ichi fod yn sicr fod gennych y medrau iawn i sicrhau y gallwch wneud y gorau o’ch amser yn y Brifysgol. Cynlluniwyd Astudiaethau Sylfaen er mwyn eich helpu i wneud y dewis astudio cywir. Cynlluniwyd y cwrs yn arbennig i’ch paratoi ar gyfer yr astudiaethau sydd o’ch blaenau. Mwy...

Trowch hefyd at
Cyrsiau Iaith Saesneg

10 rheswm da dros ddewis Llambed

Dyddiau Agored y Brifysgol