Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Dyddiau Agored

Dyddiau Agored


4 Medi 2010
29 Hydref 2010

Rydym yn cynnal tri diwrnod agored i fyfyrwyr israddedig bob blwyddyn yn ogystal â nifer o ddyddiau cyfweliadau ac ymweliadau adrannol.

Rydym yn annog pobl i fynychu’r digwyddiadau yma os oes modd, ond os nad yw hyn yn gyfleus, mae croeso i chi ymweld yn unigol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudiaeth uwchraddedig neu os hoffech ymweld ar ddiwrnod nad yw ar y rhestr yma, rhowch wybod i ni, gan ddweud pa gwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, y dyddiadau y gallech ddod, a’r amseroedd y gallech gyrraedd.  Byddwn ni’n gwneud y trefniadau angenrheidiol wedi ymgynghori â’r adran dan sylw.

Mae’r Diwrnodau Agored yn cynnwys ymweliadau â’r adrannau academaidd, cyflwyniad i’r cyrsiau gradd, cyfle i siarad â’r staff academaidd, taith o amgylch y campws yn cynnwys y llety a chyfleusterau eraill, yn ogystal â’r cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau.

I archebu lle ar ddiwrnod agored i israddedigion, dilynwch y dolenni ar y top.  Fel arall, neu i drefnu ymweliad unigol, e-bostiwch e.evans@lamp.ac.uk neu ffoniwch + 44 (0) 1570 422351.

Mae’n bosib y bydd llety dros nos ar gael os ydych yn ymweld â’r campws neu’n dod i ddydd agored.  Gadewch i ni wybod os ydych angen llety cyn gynted ag y bo modd.