Mae gennym fwy na 40 o gyrsiau israddedig ar gael, ac fe gynigir pob un ohonynt trwy strwythur modylol hyblyg fel y gallwch astudio’r meysydd sydd fwyaf o ddiddordeb ichi, ac sy’n gweddu i’ch cynlluniau gyrfaol.
Yr allwedd i’r hyblygrwydd hwn yw natur fodylol ein cyrsiau. Mae’r rhan fwyaf o raddau yn cynnwys modylau gorfodol, ond mae pob un ohonynt yn cynnwys nifer o ddewisiadau sy’n caniatáu ichi astudio’r meysydd yr ydych yn ymddiddori fwyaf ynddynt. Gallwch hefyd ddewis modylau a gynigir gan adrannau eraill os mynnwch. Cynlluniwyd modylau eraill i ddatblygu eich galluoedd personol neu broffesiynol, er enghraifft medrau astudio a modylau profiad gwaith dewisol.
Er mwyn cael manylion ein holl gyrsiau Gradd, ewch i’n Cyrsiau A-Y.