Datganiadau i’r Wasg
29 Ionawr 2010
Myfyrwyr Ffilm a'r Cyfryngau ar Restr Fer Gwobrau Gŵyl Ffresh
Yn dilyn blwyddyn ragorol arall i’w myfyrwyr Cynhyrchu’r Cyfryngau, roedd yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau wrth ei bodd i glywed fod maint ac ehangder llwyddiant ei myfyrwyr wedi cael eu cydnabod gan feirniaid y diwydiant ar gyfer Ffresh, Gŵyl Delweddau Symudol Cymru.
Wrth ddadansoddi enwau’r sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer yr ŵyl ar 11-12 Chwefror 2010, daw’r adran yn gydradd drydydd yng Nghymru ar gyfer ehangder ei llwyddiant, fel yr esbonia Trevor Harris, Arweinydd Cwrs Cynhyrchu’r Cyfryngau, “Gan inni gyrraedd y rowndiau terfynol mewn 4 categori – Ffeithiol, Graffeg Symudol, Cyfryngau Cerdd a Chyfryngau a Gemau Rhyngweithiol – mae gwaith ein myfyrwyr yn cymharu â chynnyrch pobl o brifysgolion llawer mwy sy’n cynnig graddau mwy arbenigol."
"Fel cyrsiau amrywiol, anarbenigol, mae ein graddau BA ac MA Cynhyrchu’r Cyfryngau yn parhau i gynnig canlyniadau ardderchog. Am y bumed flwyddyn yn olynol mae’r adran wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Cyfryngau a Gemau Rhyngweithiol, tra bod gwaith yr MA Cynhyrchu’r Cyfryngau yn mynd o nerth i nerth, gyda phobl yn cyrraedd rowndiau terfynol tri chategori.”
Yn y rownd derfynol ffeithiol

Ffilm ddogfennol Eleanor Flaherty "The Horse: his industry, our industry"
Cafodd Eleanor Flaherty lansiad llwyddiannus i’w ffilm ddogfen “The Horse: his industry, our industry” ym mis Rhagfyr 2009 o flaen cynulleidfa werthfawrogol ym Mhenpont ger Aberhonddu, lle y cyhoeddwyd y byddai’r ffilm yn cael ei defnyddio’n adnodd addysgol mewn ysgolion, llyfrgelloedd a mudiadau ceffylau ledled Cymru.
A hithau’n adrodd stori afaelgar y ceffyl wrth iddo lafurio dan ddaear yn y meysydd glo ac yn gyrru amaethyddiaeth ar y tir, mae’r naratif yn cynnwys lleisiau archif a chyfoes llawer o bobl yr oedd eu diwydiant yn dibynnu’n drwm ar lafur caled y ceffyl gwaith. Mae’r ffilm, a gynhyrchwyd ar gyfer Traethawd Hir trwy Arfer Eleanor ar ei chwrs MA Cynhyrchu’r Cyfryngau, yn rownd derfynol y categori Ffeithiol.
Meddai’r ddau feirniad, “Roedd y saethu’n wych, wedi’i drefnu’n dda ac roedd yn dangos dychymyg gweledol gwirioneddol. Roedd y bobl gafodd eu holi’n wych ac yn taflu goleuni diddorol iawn ar y pwnc. Roedd yn gipolwg anhysbys a heb ei werthfawrogi o’r ceffyl a’i le ym mhob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru. Roedd y gerddoriaeth yn berffaith a’r adrodd o’r safon uchaf. Roedd yn ffordd berffaith o archwilio hanes ehangach trwy un prism (h.y. y ceffyl) a chafodd ei grynhoi gan un o’r cyfranwyr - "rhan o’r teulu. Ffordd o Fyw". Gallwn weld hon yn cael ei darlledu ar y teledu yfory: mae’n llawn haeddu bod yn y rownd derfynol."
Gellir gwylio’r ffilm yn: www.eleanorflaherty.co.uk/films.html
Yn y rownd derfynol Graffeg Symudol a Chyfryngau Cerdd

Cathrin Howells and Richard Jackson's "You're the one" music video
Mae Richard Jackson a Cathrin Howells, ill dau’n astudio’r MA Cynhyrchu’r Cyfryngau ar ôl gorffen eu cwrs BA Cynhyrchu’r Cyfryngau yn Llambed, wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategorïau Graffeg Symudol a Chyfryngau Cerdd gyda’u cynhyrchiad Mikal Music Video. Mae’r gwaith arloesol hwn yn asio animeiddio blaengar a thechnegau ysgrifennu golau gyda thrac sain Mikal “You’re the one”.
Meddai’r beirniad ar gyfer categori Graffeg Symudol, “cafodd technegau eu cyfuno’n dda i greu fideo difyr” a dywedodd y beirniad ar gyfer categori Cyfryngau Cerdd “Mae’n anodd peidio gwerthfawrogi darn solet o stop-symudiad llafurus, yn enwedig wrth ychwanegu darluniau golau. Cawsom flas mawr ar y ffaith fod y gwaith yn cynnwys cymaint o animeiddio sy’n cymryd cymaint o amser, a’i ansawdd gwaith llaw”.
Mae’r enwebiadau yn rowndiau terfynol dau gategori yn dilyn llwyddiant y fideo yng Ngŵyl Ffilm Myfyrwyr Brighton ym mis Tachwedd 2009 pan gafodd dystysgrif Ffilm Animeiddio Orau.
Yn y rownd derfynol Cyfryngau a Gemau Rhyngweithiol

Gwele llawn teganau Kirsty Davies sydd wedi’i anelu at blant ifanc
Mae rownd derfynol categori Cyfryngau a Gemau Rhyngweithiol yn cynnwys rhywun o Lambed am y bumed flwyddyn yn olynol. Defnyddiodd y fyfyrwraig ail flwyddyn Kirsty Davies ei modwl Ffotograffiaeth Ddigidol i greu gwele rhyngweithiol ar gyfer plant ifanc, gyda theganau i chwarae â nhw, pethau i’w harchwilio, gwaith i edrych arno a gemau i’w harchwilio.
Roedd y beirniad yn hapus iawn â’r "Lefel dda o ryngweithio, a’r ffaith fod gemau/gweithgareddau yn fwy na chynnwys arferol QuickTime trwy fannau poeth. Trefn dda i’r ‘set’, er ei bod yn llawer taclusach nac ystafelloedd gwely fy mhlant i!”
Rydym yn falch iawn o waith ein myfyrwyr ac wrth ein bodd fod eu rhinweddau yn cael eu cydnabod gan feirniaid y diwydiant mewn cystadlaethau yng Nghymru. Mae ein myfyrwyr yn dal i gynhyrchu gwaith rhagorol ar draws y cwricwlwm, ac yn rhoi pwys ar arloesi, adrodd stori a difyrru, tra’n pontio damcaniaeth ac arfer ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes. Dymunwn yn dda iddynt yng ngŵyl Ffresh ar 11 a 12 Chwefror 2010 yn Aberystwyth.
Gwele’r ŵyl: www.ffresh.com
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Gynhyrchu’r Cyfryngau:
Trevor Harris, Adran Ffilm a’r Cyfryngau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Heol y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED. Ffôn: 01570 424781




