Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Newyddion a digwyddiadau

Datganiadau i’r Wasg

1 Mawrth 2010

Llwyddiant Jiu-Jitsu i Fyfyrwyr Llambed

Cymerodd myfyrwyr o Lambed Mikhail Banica, Jarryd Hoy, a John Tierney ran yn ddiweddar mewn cystadleuaeth Agored Jiu-Jitsu Henffordd Brasilaidd, digwyddiad crefftau milwrol gwregys gwyn yn unig.

Myfyriwr Llambed Jarryd Hoy (ar y gwaelod) yn rheoli gwrthwynebydd ac yn ceisio trefnu ymdrech ildiad yn ystod y gystadleuaeth Jiu-Jitsu Henffordd Brasilaidd.
Myfyriwr Llambed Jarryd Hoy (ar y gwaelod) yn rheoli gwrthwynebydd ac yn ceisio trefnu ymdrech ildiad yn ystod y gystadleuaeth Jiu-Jitsu Henffordd Brasilaidd.

Cafodd y cystadleuwyr gwmni llawn bws mini o gefnogwyr o Lambed fu’n bloeddio eu cymeradwyaeth wrth iddyn nhw ennill rhai o’u gornestau.

Yn y gystadleuaeth, enillodd John Tierney bedair o’i bum gornest gan ennill medal arian, enillodd Mikhail Banica un allan o dair, ac enillodd Jarryd Hoy dair gornest allan o bump. Mae’r tri myfyriwr yn cynrychioli Academi Chris Rees yn Abertawe, yr unig glwb Jiu-Jitsu Brasilaidd Gracie Barra swyddogol yng Nghymru. Teithiodd y cystadleuwyr eraill o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Llundain a Manceinion i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Mae Jiu-Jitsu Brasilaidd yn grefft filwrol ac yn fath o hunanamddiffyn sy’n canolbwyntio ar ymrafael, ac ar ymladd tir yn arbennig, ac mae’n un o’r campau sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Dechreuodd y myfyrwyr o Lambed ymddiddori ynddi ar ôl i Jarryd ddechrau trefnu ymweliadau rheolaidd gan ei hyfforddwr Chris Rees.

Mae Jiu-Jitsu Brasilaidd yn un o’r crefftau milwrol sy’n cael eu harfer yng Nghlwb Crefftau Milwrol Undeb Myfyrwyr Llambed, ynghyd â Ninjutsu, Kung fu a Phaffio. Sefydlwyd y clwb yn 2008 a daeth yn fwy a mwy poblogaidd ymhlith myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd sydd eisiau cyfuno cryfder meddyliol gyda ffitrwydd corfforol.

Mae’r myfyriwr Clasuron Jarryd hefyd wedi gallu cyfuno ei angerdd am Jiu-Jitsu a Chrefftau Milwrol gyda’i waith academaidd yn ystod ei gyfnod yn Llambed trwy ysgrifennu ei draethawd hir israddedig ar y berthynas rhwng Crefftau Milwrol Groeg ac arddull ymladd yr Hoplite yn yr hen Roeg. Mae Jarryd yn astudio erbyn hyn ar gyfer ei radd Meistr ac fe gyflwynodd ganfyddiadau’r gwaith hwn i gynadleddau yng Nghaeredin a Llambed, a chyn bo hir bydd yn rhoi cyflwyniad yng nghynhadledd y Gymdeithas Glasurol yng Nghaerdydd ac yn y Sefydliad Astudiaethau Clasurol yn Llundain.

Mae Jarryd, John a Mikhail yn awr yn edrych ymlaen at gystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Cymru ym mis Mawrth, ac efallai ym Mhencampwriaeth Prydain ym mis Ebrill.